Cyfrifon FIT: helpwch ni i fonitro peillwyr

Cyfrifon Blodau-Pryfed wedi'u Hamseru

Treuliwch ddeng munud yn gwylio blodau a phryfed mewn tywydd braf! Mae'r arolwg syml hwn yn casglu data ar gyfanswm y pryfed sy'n ymweld â blodyn penodol, yn ddelfrydol un a ddewiswyd o'n rhestr o 14 o flodau targed. Gallwch wneud Cyfrifon FIT yn unrhyw le, gan gynnwys mewn gerddi a pharciau, mewn tywydd cynnes a sych, unrhyw adeg rhwng Ebrill a Medi.

Mae pob un cyfrif yn helpu i wneud ein data yn fwy ystyrlon, ac os gallwch wneud nifer o gyfrifon mewn un lleoliad yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn gwneud cofnodion eich arolygon hyd yn oed yn fwy gwerthfawr. Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi'i rhoi yn neunyddiau'r arolwg, y gallwch eu llwytho i lawr isod, ac o dan hynny gallwch wylio'n canllawiau fideo i gael blas ar beth mae'n rhaid wneud.


Cymrwch ran yn y Cyfrif FIT - llwythwch y deunyddiau i lawr yma:

Ar gyfer pob Cyfrif FIT a wnewch, ychwanegwch eich canlyniadau i'r ffurflen "Cyflwyno Cyfrifon FIT" (neu defnyddiwch yr ap Cyfrif FIT).

Gallwch weld yr arolygon diweddaraf ar gyfer eleni ar ein map Cyfrifon FIT.

(Cafwyd cefnogaeth hael ar gyfer y cyfieithiadau Cymraeg gan brosiect Tyfu'r Dyfodol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.)


Canllawiau fideo'r Cyfrif FIT
Grwpiau pryfed y Cyfrif FIT

Deg cam ar gyfer cynnal Cyfrif FIT

Llwythwch ffurflen gofnodi i lawr ac unrhyw ddogfennau canllaw drwy'r dolenni uchod, neu ddefnyddio'r ap Cyfrif FIT.

  1. Mae Cyfrifon FIT yn cymryd tua 10–15 munud, ac yn ystod yr amser hwn gofynnir i chi gyfrif pob pryf sy'n glanio ar y blodau o'r rhywogaeth o flodau targed a ddewisoch.
  2. Gallwch wneud Cyfrif FIT mewn tywydd da rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.
  3. Mae "tywydd da" yn sych, a'r tymheredd yn 13°C o leiaf pan mae'n heulog, neu'n 15°C o leiaf pan mae'n gymylog.
  4. Dewiswch un math o flodyn yn unig fel eich blodyn targed - lle bo modd, defnyddiwch un o flodau targed y Cyfrif FIT, ond os na allwch ddod o hyd i un o'r rhestr, gallwch ddewis blodyn gwahanol fel y targed.
  5. Marciwch allan lain 50 × 50 cm sy'n cynnwys eich targed.
  6. Cyfrifwch nifer y blodau unigol ar gyfer eich rhywogaeth darged sydd o fewn eich llain chi.
  7. Gosodwch amserydd am ddeng munud, a chyfrif bob pryf sy'n glanioar y blodau targed (anwybyddwch flodau eraill, a gwnewch eich gorau i gyfrif pob pryf unigol unwaith yn unig!)
  8. Cyfrwch y pryfed yn ôl eu grwpiau bras (cacwn, pryfed hofran, ayb.) – ac os oes unrhyw rai nad ydych chi'n eu hadnabod, dylech eu cyfrif fel "pryfed eraill".
  9. Rhowch wybodaeth syml am y tywydd.
  10. Peidiwch ag anghofio anfon eich canlyniadau drwy ein ffurflen cofnodi Cyfrif FIT neu drwy'r ap.

Home