Mynd yn bellach

Gobeithio eich bod yn mwynhau cymryd rhan yn un neu yn nau arolwg PoMS (Cyfrifon FIT ac arolygon 1km sgwâr). Mae nifer o brosiectau eraill ar gyfer arolygon a chofnodi peillwyr y gallech fod â diddordeb ynddynt hefyd, a llawer o'r rhain wedi'u trefnu gan bartneriaid PoMS.

Cofnodi gwenyn a gwenyn meirch

Grey-gastered Mining Bee, Andrena tibialisAr gyfer Cyfrifon FIT PoMS rydym yn gofyn i chi gyfrif gwenyn yn dri grŵp (gwenyn mêl, cacwn a gwenyn unig). Ond mae tua 275 o rywogaethau o wenyn ym Mhrydain, felly mae'n bosib iawn mynd â'ch diddordeb ymhellach a dod i adnabod rhai o'r rhywogaethau unigol. Ac unwaith y gallwch adnabod rhai rhywogaethau, gallwch anfon cofnodion i gyfrannu at y Bees, Wasps and Ants Recording Society (BWARS), sy'n cynnull yr holl gofnodion cenedlaethol ar gyfer y pryfed hyn ac yn rhannu'r data gyda PoMS at ddibenion ymchwil (e.e. y papur diweddar ar golledion ymysg pryfed peillio). Mae gan wefan BWARS lawer o wybodaeth ar ganllawiau adnabod a sut i gymryd rhan mewn cofnodi gwenyn (a gwenyn meirch, sy'n beillwyr hefyd!) Gall fod yn anodd adnabod gwenyn a gwenyn meirch, ac i gael help i'w hadnabod, mae grŵp Facebook actif iawn gan BWARS. Wedi i chi eu hadnabod, gallwch ychwanegu'ch cofnodion at iRecord neu eu hanfon yn uniongyrchol at BWARS.

Yn achos cacwn, mae gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn (BBCT, sy'n un o sefydliadau partner PoMS) lawer o wybodaeth, yn cynnwys canllawiau adnabod, a nhw hefyd sy'n rhedeg yr arolygon "BeeWalk". Mae'r rhain yn golygu cerdded llwybr rheolaidd unwaith y mis a chofnodi'r holl gacwn a welwch. Mae hyn yn rhoi edefyn arall o ddata ar beillwyr y gellir ei ddefnyddio i fonitro newidiadau. I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac am arolygon eraill, dilynwch y ddolen isod:


Cofnodi pryfed hofran a mathau eraill o glêr

A hoverfly, Epistrophe grossulariaeMae'r Cynllun Cofnodi Pryfed Hofran (HRS) yn cynnull cofnodion ar gyfer pryfed hofran mewn ffordd debyg i BWARS ar gyfer y gwenyn, ac mae hefyd yn rhannu'r data ar gyfer ymchwil. Mae gan HRS hefyd grŵp Facebook actif sy'n cynnig llawer o help gydag adnabod ac enwi rhywogaethau. Gellir cyflwyno'r cofnodion drwy'r grŵp Facebook, mewn taenlenni neu drwy iRecord.

I gael gwybodaeth am yr amrywiaeth eang iawn o deuluoedd a rhywogaethau o glêr yn ogystal â phryfed hofran (sy'n fath o glêr), a rhestr o'r holl gynlluniau cofnodi eraill ar gyfer clêr, ewch i wefan y Dipterists Forum ac archwilio'r dolenni yno (gweler hefyd y Dipterists Forum ar Twitter a Facebook).


Cofnodi pili-palod a gwyfynod

Painted Lady butterflyCaiff y gwaith o gofnodi pili-palod ei gydlynu gan Butterfly Conservation a'u rhwydwaith o ganghennau lleol. Mae llawer o help ar gael ar ar eu gwefan ar gyfer adnabod ac enwi rhywogaethau, ac mae llawer o grwpiau lleol yn actif ar Twitter a/neu Facebook ayb. Gellir anfon cofnodion i mewn drwy iRecord (gan gynnwys yr ap iRecord Butterflies) neu'n uniongyrchol i'r canghennau.

Caiff cofnodion am wyfynod eu cynnull gan rwydwaith o gofnodwyr gwyfynod sirol, sy'n bwydo'r cofnodion i'r Cynllun Cofnodi Gwyfynod Cenedlaethol, a gaiff ei reoli gan Butterfly Conservation. Fel yn achos pili-palod, mae grwpiau gwyfynod lleol yn y rhan fwyaf o siroedd neu ranbarthau. Mae rhai siroedd yn defnyddio iRecord, ond cysylltwch â'ch cofnodwr gwyfynod sirol i wirio sut maen nhw am dderbyn cofnodion.

Mae Butterfly Conservation yn bartner yn PoMS.


Cofnodi peillwyr eraill

Mae gan lawer o'r grwpiau o bryfed eraill eu cynlluniau cofnodi eu hunain. Gweler y rhestr o'r ddolen isod.

I weld mwy am gofnodi bywyd gwyllt yn gyffredinol, gweler "Getting started" gan y Ganolfan Cofnodion Biolegol o fewn UKCEH.


Cofnodi planhigion

Hogweed flowers visited by hoverflies and other fliesMae angen planhigion ar beillwyr! Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan yn y gwaith o gofnodi planhigion, gan gynnwys arolygon strwythuredig fel y Cynllun Monitro Planhigion Cenedlaethol, sydd â nodau tebyg i PoMS (ac yn Lloegr a'r Alban mae sgwariau 1km PoMS wedi'u cyd-leoli â sgwariau'r Cynllun). Archwiliwch y dolenni isod i ddysgu mwy, ac edrychwch hefyd ar y canllaw defnyddiol hwn gan BSBI i roi cynnig ar adnabod planhigion.

Dysgwch fwy:

 

Home