Mae PoMS yn gynllun monitro hirdymor a bydd gwerth y data mae'n ei gasglu yn cynyddu wrth i fwy o flynyddoedd o gofnodi gael eu hychwanegu. Fodd bynnag, bu allbynnau ymchwil eisoes yn defnyddio data o PoMS, ac mae mwy yn yr arfaeth.
Mae cynnal cysylltiadau â'r gymuned ymchwil ehangach yn hwyluso'r defnydd o'r data mewn gwaith ymchwil, gwaith cadwraeth a chynllunio arolygon, a bydd yn helpu i gyflwyno Partneriaeth Ymchwil a Monitro Peillwyr (PMRP) gynaliadwy ar gyfer y DU.
Mae monitro peillwyr yn talu ar ei ganfed a mwy
Mae partneriaid PoMS yn awduron papur newydd sy'n dangos pwysigrwydd a gwerth cynlluniau wedi'u dylunio'n dda ar gyfer monitro peillwyr. Mae mynediad agored i'r papur:
- Breeze, T.D., Bailey, A.P., Balcombe, K.G., et al. 2021. Pollinator monitoring more than pays for itself. Journal of Applied Ecology 58: 44– 57. DOI: 10.1111/1365-2664.13755
Colledion helaeth ymysg pryfed peillio ym Mhrydain
Mae ymchwil newydd sy'n defnyddio data o gynlluniau cofnodi yn dangos newidiadau a cholledion yn nosbarthiad peillwyr:
- Postiad blog UKCEH
- Powney, G.D., Carvell, C., Edwards, M., Morris, R.K.A., Roy, H.E., Woodcock, B.A., ac Isaac, N.J.B.. 2019. Widespread losses of pollinating insects in Britain. Nature Communications. DOI: 10.1038/s41467-019-08974-9
Dangosyddion Bioamrywiaeth
Caiff data o'r ddau arolwg gan PoMS a'r cynlluniau cofnodi eu cynnull i'w dadansoddi i roi metrigau allweddol ar statws poblogaethau peillwyr a thueddiadau o'u mewn, gan gynnwys diweddariadau o Ddangosydd Peillwyr y DU ar lefel rhywogaethau a gwledydd.
Papurau a gyhoeddwyd o gyfnod dylunio a phrofi PoMS
- O'Connor RS, Kunin WE, Garratt MPD, Potts …. Carvell C. 2019. Monitoring insect pollinators and flower visitation: The effectiveness and feasibility of different survey methods. Methods Ecol Evol. 2019;00:1–12. DOI: 10.1111/2041-210X.13292
- M.P.D. Garratt, S.G. Potts, G. Banks, C. Hawes, T.D. Breeze, R.S. O'Connor, C. Carvell. 2019. Capacity and willingness of farmers and citizen scientists to monitor crop pollinators and pollination services. Global Ecology and Conservation. DOI: 10.1016/j.gecco.2019.e00781
- Creedy, T. J., Norman, H., Tang, C. Q., Chin, K. Q., Andujar, C., Arribas, P., Carvell., C.… Vogler, A. P. 2019. A validated workflow for rapid taxonomic assignment and monitoring of a national fauna of bees (Apiformes) using high throughput DNA barcoding. Molecular Ecology Resources. DOI: 10.1111/1755-0998.13056