Ynghylch PoMS

Mae Cynllun Monitro Peillwyr y DU (PoMS) yn rhan o Bartneriaeth Monitro ac Ymchwil Peillwyr (PMRP) ehangach sydd â'r nod o ddod i ddeall sut mae poblogaethau pryfed yn newid ar draws y DU.

Rydyn ni'n gweithio gyda chynlluniau cofnodi sy'n bodoli eisoes sy'n canolbwyntio ar bryfed peillio, ac rydym wedi sefydlu dau arolwg newydd ar raddfa eang ar gyfer PoMS (y Cyfrifon FIT a'r arolwg 1 km sgwâr) sy'n rhedeg ar hyd a lled y DU gyda help gan nifer o wirfoddolwyr.

Nod PoMS yw ymgysylltu ag unigolion a chymunedau i weithredu ar ran peillwyr, ac i helpu i ddarparu tystiolaeth ar gyfer pedair strategaeth y DU ar gyfer peillwyr:

I gael rhagor o wybodaeth am PoMS, cysylltwch â ni.

Cyllidir PoMS ar y cyd gan Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Daera, JNCC a phartneriaid y prosiect.

Partneriaid y prosiect:

  • Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
  • Bumblebee Conservation Trust
  • Butterfly Conservation
  • British Trust for Ornithology
  • Hymettus
  • Amgueddfa Astudiaethau Natur
  • Prifysgol Reading
  • Prifysgol Leeds
  • yn gweithio gyda'r Bees, Wasps and Ants Recording Society, rhanddeiliaid ehangach a rhwydweithiau gwirfoddolwyr.

Dr Claire Carvell yw Prif Ymchwilydd y prosiect, ac mae hi wedi'i lleoli yn UKCEH yn Wallingford, Swydd Rydychen.

Home