Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd fersiwn 1

Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Mawrth 2021

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn gosod ein sail ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu a roddwch chi i ni.

1. Pwy ydyn ni

Y wefan hon yw cartref Cynllun Monitro Peillwyr (PoMS) y DU.
Caiff y wefan ei gweithredu gan PoMS fel rhan o waith Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH).

  • Mae PoMS yn rhan o Bartneriaeth Monitro ac Ymchwil Peillwyr y DU. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys UKCEH, Bumblebee Conservation Trust, Butterfly Conservation, British Trust for Ornithology, Hymettus, Prifysgol Reading, Prifysgol Leeds a'r Amgueddfa Astudiaethau Natur. Caiff PoMS ei ariannu ar y cyd gan Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, Daera, JNCC a phartneriaid y prosiect.
  • Mae UKCEH yn sefydliad ymchwil annibynnol nid-er-elw ac mae'n Elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 1185618) ac yn yr Alban (rhif SC049849), ac mae wedi'i gofrestru fel Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yng Nghymru a Lloegr (rhif 11314957).
  • Caiff UKCEH ei chyllido'n strategol gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU.

UKCEH yw'r rheolydd ar gyfer pob achos o brosesu data personol at ddibenion PoMS. Mae Hysbysiad Preifatrwydd UKCEH yma.

2. Pam ydyn ni'n casglu'ch gwybodaeth chi?

Mae UKCEH yn casglu'ch data personol er mwyn gweinyddu, rhedeg a rhannu canlyniadau o arolygon ar beillwyr a drefnir gan PoMS. Pan fyddwch chi'n cyflwyno canlyniadau arolwg, caiff eich enw ei gynnwys gyda'r wybodaeth am yr arolwg (gan gynnwys y lleoliad a'r amser) i ffurfio 'data'r arolwg'. Efallai y cysylltir â chi gyda chwestiynau am y cofnodion a roddwch at ddiben dilysu a gwirio data'r arolwg. Gallwch hefyd optio i mewn i gael gwybodaeth ac adborth am PoMS, ac sy'n eich cyfeirio at adnoddau allanol sy'n berthnasol i'ch cyfraniad chi.

Byddwn yn casglu'r data personol canlynol amdanoch chi:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Lleoliad a dyddiad unrhyw ganlyniadau arolwg PoMS a gyflwynwch

Yn nhermau diogelu data, rydym yn defnyddio'r 'sail gyfreithlon' bod 'buddiant dilys' ar gyfer casglu, prosesu a rhannu'ch data personol.

Mae'r holl ddata y mae UKCEH yn ei ddal yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data y Deyrnas Unedig ac mae ein sail ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a roddwch i ni, wedi'i chwmpasu gan hysbysiad preifatrwydd UKCEH.

Yn ogystal â'r wybodaeth y gofynnwn i chi ei rhoi drwy'r wefan, rydym hefyd yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am ymweliadau â'r safle gan ddefnyddio Google Analytics ac yn logiau ein gweinydd. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata personol ond mae'n cynnwys:

  • Eich cyfeiriad IP
  • Y tudalennau y gofynnwch amdanynt, pryd rydych chi'n gofyn amdanynt, a sut rydych chi'n rhyngweithio â nhw
  • Y math o ddyfais a phorwr a ddefnyddiwch

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i gefnogi'n gwaith mewn amryw ffyrdd, gan gynnwys monitro perfformiad, gwella dyluniad, diogelu yn erbyn ymddygiad maleisus a chefnogi ceisiadau am gyllid.

3. Sut ydyn ni'n storio'ch gwybodaeth ac a fyddwn ni'n ei rhannu?

Caiff yr holl ddata personol a gasglwn amdanoch ei storio'n ddiogel mewn set ddata gyhyd ag y byddwch wedi'ch cofrestru gyda PoMS. Os ydych yn dymuno tynnu'ch cofrestriad yn ôl ar gyfer PoMS, cysylltwch â poms@ceh.ac.uk i roi gwybod i ni. Caiff y gydran o'ch data personol sy'n ffurfio rhan o'r data arolwg (h.y. eich enw fel arolygwr, a lleoliad ac amser y cofnod) ei chadw'n barhaol fel rhan o'r set ddata wyddonol.

Rhannu'ch cyfeiriad e-bost ag eraill

Ni fyddwn yn cyhoeddi eich cyfeiriad e-bost yn agored.
Bydd gan staff a gwirfoddolwyr arbenigol sy'n gweithio gyda ni, a benodir gennym i rôl gwirydd, fynediad i'ch cyfeiriad e-bost er mwyn ymgymryd â'u rôl yn cefnogi'r gwaith o fonitro bioamrywiaeth.

Rhannu'ch enw sy'n ffurfio rhan o ddata'r cyfrif

Caiff data o arolygon PoMS ei rannu gyda sefydliadau eraill ac unigolion ar draws y byd at ddibenion ymchwil wyddonol. Caiff eich enw ei gynnwys fel rhan o'r cofnodion gwyddonol yn y setiau data hyn. Am y caiff data cyfrifon ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil sydd o fudd i'r cyhoedd, caiff ei gadw fel rhan o'n gwaith a bydd eich data personol (enw'r cofnodydd a'r gwirydd) yn parhau'n gyhoeddus; gall trydydd partïon lwytho data agored i lawr, ei ailgymysgu, a'i ailddosbarthu.

Os caiff data ei gyhoeddi'n agored, bydd ar gael i unrhyw un a bydd ar gael i'w ddefnyddio yn unrhyw le.

Ac eithrio fel a gyflwynir uchod, ac oni bai am ble fo rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny, ni fyddwn yn rhannu'ch data personol gydag unrhyw un arall, a byddwn yn cadw at Ddeddfwriaeth gyfredol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data bob amser.

4. Eich hawliau chi a'n manylion cyswllt ni

Mae hawl gennych i gyrchu unrhyw ddata personol rydym yn ei ddal amdanoch. Gallwch weld y data personol rydym yn ei ddal amdanoch drwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar wefan PoMS. Fel arall, cysylltwch â poms@ceh.ac.uk gyda chymaint o fanylion â phosib am y wybodaeth yr hoffech i ni ei rhoi a byddwn ni'n anelu i ymateb o fewn un mis.

Mae gennych hawl i wrthwynebu i'ch data personol gael ei brosesu lle byddwn wedi dibynnu ar fuddiant dilys fel y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gyfyngu neu atal prosesu eich data personol, a hawl i ofyn i ni ei gywiro neu ei ddileu (ac eithrio enwau o setiau data sydd eisoes wedi'u cyhoeddi'n agored).
Lle nad chi eich hunain a roddodd y data personol rydym yn ei ddal amdanoch, mae hawl gennych i ofyn sut cawsom afael ar y data personol. Gallwch ofyn i gael dileu eich cyfrif defnyddiwr PoMS unrhyw bryd drwy anfon e-bost at poms@ceh.ac.uk.

Cysylltwch â cehdataprotection@ceh.ac.uk os hoffech fynd ymlaen gydag unrhyw un o'r hawliau hyn.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio, byddwn yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gennych hawl hefyd i rwymedi barnwrol effeithiol yn erbyn penderfyniadau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

5. Newidiadau i'r Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer yr wefan PoMS

Efallai y caiff yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd. Bydd y fersiwn diweddaraf bob amser ar gael yn ukpoms.org.uk/privacy-notice. Os gwneir newidiadau i'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn y dyfodol, caiff hysbysiad amlwg ei roi ar y wefan.

Home