Arolwg un km sgwâr

Map showing PoMS 1 km squares adopted by volunteersMae'r arolygon 1 km sgwâr yn dilyn dull systematig, gan ddefnyddio trapiau padell i ddal samplau o bryfed o set o 75 o sgwariau 1 km ar draws y DU (gweler y map o'r lleoliadau). Sefydlwyd y rhwydwaith o leoliadau gan PoMS gyda chaniatâd hael y perchenogion tir sy'n cymryd rhan. Caiff y gwaith samplu pryfed a monitro blodau ei wneud gan ein tîm rhagorol o wirfoddolwyr sydd wedi 'mabwysiadu' y sgwariau ac sy'n helpu i gynnal yr arolygon. Mae pob sgwâr yn cael ymweliad bedair gwaith y flwyddyn, unwaith ym mis Mai, Mehefin, Gorffennaf ac Awst.

Yn Lloegr a'r Alban dewiswyd sgwariau 1 km PoMS o gasgliad ehangach o sgwariau a ddefnyddiwyd ar gyfer y Cynllun Monitro Planhigion Cenedlaethol (CMPC), ac yng Nghymru dônt o gasgliad ehangach o sgwariau 1 km a ddefnyddir ar gyfer gwaith sy'n mynd rhagddo yn adrodd ar adnoddau naturiol. Mae arolwg tebyg yn cael ei sefydlu yng Ngogledd Iwerddon yn 2021. Caiff y sgwariau eu haenu ar hap i sicrhau cydbwysedd rhwng cynefinoedd pennaf amaethyddol a chynefinoedd lled naturiol.


Mae sgwariau ar gael i'w mabwysiadu o hyd! Os hoffech wybod mwy am sut i gymryd rhan yn hyn, cysylltwch â PoMS.

Mae'r fideo isod yn esbonio mwy am beth fyddai'n ei olygu. Mae PoMS yn darparu'r holl gyfarpar, hyfforddiant, caniatâd mynediad ac yn adnabod y samplau.

I gael rhagor o wybodaeth am y dull a ddefnyddir ar gyfer samplu pryfed, gweler ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Home