Cwestiynau Cyffredin

Rydym wedi llunio atebion i rywfaint o gwestiynau a allai fod gennych am y Cyfrifon FIT neu'r arolwg 1 km – cysylltwch â ni os nad oes ateb i'ch cwestiwn chi yma!

Pa mor aml ddylwn i wneud Cyfrifon FIT?

Does dim rheol bendant am hyn, a bydd hyd yn oed un Cyfrif FIT yn helpu i roi data defnyddiol ar gyfer ein dadansoddiad cyffredinol. Fodd bynnag, os gallwch ail-wneud y cyfrifon dros amser yn yr un lleoliad, mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol. Gallai hyn fod unwaith y mis, unwaith yr wythnos neu hyd yn oed unwaith y dydd – mae fyny i chi yn llwyr! Does dim angen i chi ddefnyddio'r un blodyn targed bob tro (ac mae'n iawn symud union leoliad eich cyfrif o un grŵp o flodau i un arall).


Gaf i gofnodi'r rhywogaethau a welaf?

Ar gyfer y Cyfrif FIT dim ond grwpiau o rywogaeth pryfed mae angen i chi eu henwi, a'n prif ddiddordeb yw niferoedd y pryfed yn hytrach na'r rhywogaethau eu hunain. Ond os oes unrhyw rywogaethau y gallwch eu henwi, naill ai yn ystod y cyfrif neu ar unrhyw adeg arall, bydd y cynlluniau cofnodi ar gyfer y gwahanol grwpiau yn croesawu'r cofnodion, gweler Mynd yn bellach. Gellir ychwanegu cofnodion y rhywogaethau at iRecord neu eu hanfon yn uniongyrchol at y cynlluniau cofnodi.


Pam fod angen defnyddio trapiau padell?

Defnyddir trapiau yn aml i fonitro poblogaethau o bryfed. Mae hyn yn rhannol am y gall y dull roi canlyniadau cyson ac ystadegol ddilys, gyda llai o duedd sy'n anochel pan fo pobl yn arsylwi; ac yn rhannol oherwydd yn achos nifer o bryfed, dim ond os caiff y sbesimenau eu harchwilio dan ficrosgop y gellir eu henwi'n gywir i'r rhywogaeth.

Mae PoMS yn defnyddio trapiau padell ar gyfer ein harolygon 1 km sgwâr. Powlenni plastig bychan wedi'u peintio'n wyn, melyn a glas yw trapiau padell. Cânt eu llenwi â dwr a rhywfaint o sebon golchi dibersawr i leihau tyniant yr arwyneb. Caiff pryfed eu denu at y bowlenni yn yr un modd ag y cânt eu denu at flodau ac maent yn cael eu dal yn y dŵr.

Mae protocol trapiau padell PoMS wedi'i ddylunio'n ofalus i leihau'r nifer o bryfed a gaiff eu dal, ond gan samplu digon o bryfed unigol i fesur newidiadau dros amser. Fel arfer dim ond 3-4 o wenyn a phryfed hofran sy'n cael eu dal ym mhob set o dair padell mewn arolwg trap padell 6 awr, ond mae'r niferoedd hyn yn amrywio yn dibynnu ar wahanol ffactorau, gan gynnwys y lleoliad a'r amser o'r flwyddyn. Mae yna astudiaethau sy'n dangos na effeithir yn negyddol ar niferoedd cyffredinol poblogaethau o bryfed pan gaiff pryfed eu dal mewn trapiau ar raddfa ac amlder arolygon fel PoMS. Mae'r data'n rhoi tystiolaeth gadarn o newidiadau yn helaethrwydd pryfed y gelir ei defnyddio i lywio gwaith cadwraeth a pholisïau amgylcheddol.

Yn ddiweddar, cynhyrchodd BBC Radio 4 raglen dreiddgar ble bu nifer o entomolegwyr amlwg yn trafod pam fod angen lladd gwrthrychau eu hymchwil weithiau er mwyn gwyddoniaeth.


Beth sy'n digwydd i'r samplau pryfed?

Caiff pryfed o samplau 1 km sgwâr PoMS eu storio mewn tiwbiau bychain o alcohol a'u dychwelyd i labordai UKCEH i'w dadansoddi a'u prosesu i'w cadw. Mae hyn yn cynnwys cyfrif llawn o bob pryf a samplwyd yn y trapiau padell, wedi'u categoreiddio yn ôl grŵp rhywogaeth. Caiff yr holl wenyn a phryfed hofran yn y samplau eu harchwilio ymhellach i lefel rhywogaeth.

Caiff y set gyfan o samplau o bob blwyddyn ei harchifo ac mae wedi'i defnyddio i wneud ymchwil bellach yn cynnwys dadansoddi DNA.


Gaf i ychwanegu 1 km sgwâr arall i PoMS?

Am y tro, caiff arolygon PoMS eu cynnal ar draws set benodedig o 75 o sgwariau 1 km haenedig ar hap ar draws Prydain, a ddyluniwyd i allu canfod newidiadau yn niferoedd pryfed dros gyfnod o 5-10 mlynedd. Nid ydym yn disgwyl ychwanegu at y nifer hon yn y dyfodol agos. Mae'r fethodoleg a ddefnyddiwn ar gael a gellid ei defnyddio mewn lleoliadau ychwanegol. Os ydych chi'n bwriadu gwneud hynny, hoffem glywed gennych chi. Er na ellir cyfrif sgwariau ychwanegol ym mhrif set ddata PoMS, byddent yn gymhariaeth ychwanegol ddiddorol.

Yn anffodus, ni all PoMS ddarparu cyfarpar arolwg ar gyfer unrhyw arolygon trapiau annibynnol, na phrosesu sbesimenau ohonynt.

Home