Croeso i Gynllun Monitro Peillwyr y DU (PoMS)

Mae pryfed peillio yn chwarae rhan hanfodol yn ein hamgylchedd, gan sicrhau y gall llawer o'n cnydau a'n planhigion gwyllt ddwyn had a ffrwythau. Mae angen i ni wybod sut mae poblogaethau pryfed peillio yn newid, a gyda'ch help chi rydym yn casglu data ynghylch amrywiaeth eang o bryfed sy'n ymweld â blodau.

Darllenwch fwy i weld sut gallwch chi ymuno a helpu i fonitro iechyd ein peillwyr, a chael ein newyddion diweddaraf.

Dewiswch weithgaredd

The ten minute count...
1

Y cyfrif deng munud...

Treuliwch ddeng munud yn cyfri peillwyr i gyfrannu Cyfrif Blodau-Pryfed wedi'i Amseru (Cyfrif FIT)

Anfonwch eich canlyniadaur drwy ffurflen gofnodi'r Cyfrif FIT neu'r ap Cyfrif FIT

CYMRYD RHAN

...or something bigger
2

...neu rywbeth mwy

Mabwysiadwch 1 km sgwâr a helpwch ni i gynnal arolwg systematig o bryfed a blodau

CYMRYD RHAN

Cymerwch ran mewn cofnodi rhywogaethau peillwyr drwy'r cynlluniau cofnodi cenedlaethol

Canllawiau Covid

Cychwynnodd tymor Cyfrif FIT 2021 ar 1 Ebrill ac mae bellach ar agor ar gyfer cofnodion. Fodd bynnag, dylid cynnal Cyfrifon FIT dim ond ble fo'n ddiogel ac yn gyfreithlon gwneud hynny ac os ydych chi'n gyfforddus yn eu cynnal. Bydd yr arolygon 1 km sgwâr yn ailgychwyn o fis Mai 2021 oni bai y bydd cyfyngiadau lleol yn atal hynny. Efallai y bydd union gyfreithlondeb yr hyn sy'n cael ei ganiatáu yn amrywio dros amser, rhwng ardaloedd, ac mewn ffyrdd eraill fel perchenogaeth y tir. Byddwn yn parhau i adolygu deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol ac i ymgynghori â phartneriaid Statudol ac NGO ynghylch y goblygiadau ar gyfer ein harolygon.

Mae'n hanfodol bod pawb sy'n cymryd rhan yn PoMS yn dilyn cyngor diweddaraf y Llywodraeth ar gyfer eu gwlad er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Mae'n bwysig nodi bod y rheoliadau'n amrywio ar draws y DU. Os ydych mewn lleoliad lle mae'r risg yn uchel (er enghraifft, ble gwneir profion actif ar gyfer amrywiolyn newydd) byddwch yn arbennig o ofalus.

Mae iechyd ein gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i ni, fel y mae ein perthynas â'r perchenogion tir ble rydyn ni'n mynd ar dir preifat. Ni ddylai unrhyw un deimlo pwysau i gynnal arolygon PoMS os nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny, neu os ydynt yn pryderu y gallai gael effaith negyddol ar berthynas â pherchenogion tir neu aelodau eraill o'r cyhoedd a chymunedau lleol.


Help gather evidence on changes in insect populations

Helpwch i gasglu tystiolaeth am newidiadau ym mhoblogaethau pryfed

PoMS yw'r unig gynllun yn y byd sy'n cynhyrchu data systematig ar raddfa genedlaethol ynghylch helaethrwydd gwenyn, pryfed hofran a phryfed eraill sy'n ymweld â blodau. Ar y cyd â chofnodion presenoldeb hirdymor a gesglir gan y Bees, Wasps and Ants Recording Society a'r Hoverfly Recording Scheme, bydd y data hwn yn adnodd gwerthfawr er mwyn mesur tueddiadau ym mhoblogaethau peillwyr a thargedu ymdrechion cadwraeth.

Gydag adroddiadau am golledion enbyd yn niferoedd pryfed ar draws y byd, a phryder ynghylch beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer bioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau yn ehangach, ni fu erioed mor bwysig dogfennu tystiolaeth o newidiadau ym mhoblogaethau pryfed peillio.


Pwy ydyn ni

Mae Cynllun Monitro Peillwyr (PoMS) y DU yn rhan o Bartneriaeth Monitro ac Ymchwil Peillwyr y DU. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH), Bumblebee Conservation Trust, Butterfly Conservation, British Trust for Ornithology, Hymettus, Prifysgol Reading, Prifysgol Leeds a'r Amgueddfa Astudiaethau Natur. Caiff PoMS ei ariannu ar y cyd gan Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Daera, JNCC a phartneriaid y prosiect.

"UK centre for Ecology & Hydrology" "Bumblebee Conservation Trust" "Butterfly Conservation" "Hymettus" "Bird trust Ornithology" "University of Reading" "University of Leeds" "Natural History Museum"

"Department for Environment, Food & Rural Affairs" "The Scottish Government" "Welsh Government services and information"

Home