Ap y Cyfrif FIT

Ap y Cyfrif FITMae ap newydd ar gael sy'n gadael i chi gynnal Cyfrif FIT a llwytho'r canlyniadau i fyny i gyd ar unwaith.

Yn cynnwys y nodweddion hyn:

  • Gellir mewnbynnu'r holl ddata ar gyfer y Cyfrif FIT yn y maes - does dim angen signal rhyngrwyd
  • Gellir arbed a llwytho cyfrifon i fyny ar unwaith, neu ar ôl i chi ddychwelyd
  • Yn cynnwys canllaw i adnabod grwpiau o bryfed
  • Y Saesneg a'r Gymraeg ar gael yn yr ap
  • Gellir defnyddio GPS y ddyfais i gofnodi'ch lleoliad yn awtomatig

Wedi i chi arbed eich Cyfrifon a'u llwytho i fyny, byddwch yn gallu eu gweld drwy'r map Cyfrif FIT ar y wefan hon. Os oes angen i chi olygu'ch Cyfrif ar ôl ei lwytho i fyny o'r ap, bydd angen i chi gofrestru gyda'r wefan hon, gan ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost ag y defnyddioch i gofrestru gyda'r ap.

 

Home