Mae PoMS yn cynnal dau brif arolwg:
Cyfrif Blodau-Pryfed wedi'i Amseru (Cyfrif FIT)
- Gellir ei wneud mewn unrhyw leoliad ble mae blodau
- Unrhyw bryd mewn tywydd digon da, rhwng 1 Ebrill a 30 Medi
- Dewiswch lain o flodau targed a chyfrif yr holl bryfed sy'n glanio arnynt o fewn deng munud
- Anfonwch ganlyniadau eich cyfrif i'n helpu i lunio darlun cenedlaethol o helaethrwydd peillwyr
Arolwg 1 km sgwâr systematig
- Yn golygu gosod trapiau padell yn y bore, casglu'r pryfed ddiwedd y dydd a dychwelyd y samplau i labordai PoMS
- Yn digwydd mewn 75 o sgwariau 1 km wedi'u dewis eisoes ar draws y DU, o gaeau ffermydd i lethrau mynyddoedd
- Mae gwirfoddolwyr yn mabwysiadu sgwâr ac yn ymweld ag ef bedair gwaith yn ystod yr haf
- Bydd PoMS yn darparu'r holl gyfarpar, hyfforddiant a chaniatâd mynediad
- Anfonwch eich samplau a'ch data i helpu i lunio set ddata gref o newidiadau yn nosbarthiad a helaethrwydd peillwyr
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn rhai o'r arolygon a'r prosiectau cofnodi rhywogaethau eraill sy'n cael eu cynnal gan bartneriaid PoMS a chynlluniau cofnodi cenedlaethol eraill.