Cyflwynwch ganlyniadau eich Cyfrif FIT

Ychwanegwch ganlyniadau eich Cyfrif FIT. Gallwch weld yr holl gyfrifon ar gyfer y tymor presennol ar y map Cyfrifon FIT.

(Os ydych chi'n cymryd rhan yn yr arolygon 1km sgwâr ac os oes gennych chi ddata Cyfrif FIT i'w ychwanegu o'ch sgwâr, defnyddiwch ffurflen y Cyfrif FIT 1km sgwâr)

Mae'r Cyfrif FIT hwn yn cael ei gyflwyno i wefan PoMS y DU. Os ydych chi wedi cofrestru gyda'r wefan, mewngofnodwch er mwyn i'r Cyfrif hwn ymddangos yn eich rhestr "Fy Nghofnodion". Os nad ydych eisoes wedi cofrestru â PoMS y DU, rydym yn argymell i chi gofrestru er mwyn gallu gweld eich Cyfrifon blaenorol a defnyddio holl gyfleusterau'r safle. Fodd bynnag, gallwch barhau heb gofrestru drwy roi eich manylion isod. Rydyn ni'n gofyn am y rhain rhag ofn bydd angen i ni gysylltu â chi pan fyddwn ni'n gwirio'r data. Fyddan nhw ddim yn cael eu defnyddio at unrhyw bwrpas arall.
Personal details
*

Please provide your email. This will only be used to contact you if we require further information to verify the record.

Os ydych chi'n cyflwyno nifer o gyfrifon, gallwch chi ddefnyddio'r symbolau clo gwyrdd i 'gloi' llawer o'r blychau, fel mai dim ond unwaith y bydd angen i chi nodi'ch dewis - bydd y gosodiad yn cael ei gofio pan fyddwch chi'n cyflwyno'r Cyfrif nesaf
 *

Rhowch enw'r cofnodwr, os nad yw'n cael ei ddangos yn barod, gan ddefnyddio'r fformat "Enw cyntaf Cyfenw"

 *

Dewiswch y dyddiad y gwnaethoch y cyfrif

 *

Rhowch enw'r safle, yn ddelfrydol gan ddefnyddio un y gellir ei adnabod o fap OS. Os mai gardd breifat yw'r lleoliad, mae enw'r dref neu'r pentref yn ddigon, does dim angen y cyfeiriad llawn.

 *  

Rhowch y cyfeiriad grid ar gyfer lleoliad eich Cyfrif FIT. Gallwch roi'r cyfeirnod yn uniongyrchol (uchod), NEU chwilio am le (isod) yna clicio ar y map i'w osod.


 *

Os dewisoch chi Math arall o gynefin rhowch y manylion isod.

 *

Dewiswch eich blodyn targed o'r rhestr, neu ddefnyddio "Arall" os nad yw'r blodyn a ddewisoch ar y rhestr. Os ydych chi'n gwybod beth yw'r union rywogaeth a ddefnyddioch, rhowch yr enw yn y blwch isod.

*
*
*

Os defnyddioch chi flodyn targed o'r brif restr, caiff hyn ei lenwi'n ddiofyn gyda'r math o flodyn a ddangosir yng nghanllaw adnabod blodau'r Cyfrif FIT. Os defnyddioch chi flodyn nad yw ar y rhestr, rhowch y math o flodyn a gyfroch chi.

*
*

Defnyddiwch amser cloc 24 awr gyda cholon yn y canol - er enghraifft, dylid ysgrifennu 2.45 pm fel 14:45. Dylid rhoi'r amser yn Amser Haf Prydain (BST).

Rhowch y cyfrifon ar gyfer pob grŵp o rywogaethau a ymwelodd â'ch blodau targed. (Yn achos grwpiau NA weloch chi, gadewch y blwch yn wag, does dim angen cofnodi sero.)

Gallwch ychwanegu lluniau i ddangos enghreifftiau o'r grwpiau o bryfed a weloch, ond DEWISOL yw hyn. Os yw'n bosib, hoffem weld enghraifft o'r grwpiau o bryfed a gyfroch chi, er mwyn i ni allu cywiro unrhyw achosion a enwyd ar gam, ond does dim angen i chi gymryd lluniau o bryfed ar gyfer pob un o'r cyfrifon a wnewch. PEIDIWCH â chymryd lluniau yn ystod y 10 munud pan fyddwch chi'n cyfrif, oherwydd gallai hyn amharu ar y pryfed ac effeithio ar ganlyniad y cyfrif. Yn hytrach, gallech dynnu lluniau o'r prif grwpiau o bryfed ar ôl gorffen y cyfrif ei hun.

Step 1
SpeciesAbundancePhotos
Cacwn Ychwanegu ffotograff
Gwenyn mêl Ychwanegu ffotograff
Gwenyn unigol Ychwanegu ffotograff
Gwenyn meirch Ychwanegu ffotograff
Pryfed hofran Ychwanegu ffotograff
Clêr eraill Ychwanegu ffotograff
Pili palod a gwyfynod Ychwanegu ffotograff
Chwilod Ychwanegu ffotograff
Pryfed bach (<3mm) Ychwanegu ffotograff
Pryfed eraill Ychwanegu ffotograff
*
*
*
Diolch am roi canlyniadau eich cyfrif. Peidiwch ag anghofio clicio "Cyflwyno" (isod) i arbed eich cyfrif!

Map o'r Cyfrifon FIT

Mae'r map hwn yn dangos lleoliad pob Cyfrif FIT sydd wedi'i ychwanegu y tymor hwn. Gallwch ddefnyddio'r hidlyddion i weld cyfrifon o flynyddoedd blaenorol, neu i hidlo am fathau penodol o arolwg Cyfrif FIT.

4377 Cyfrifon a gyflwynwyd hyd yma gan 751 o gyfranogwyr

Report parameters

Dewiswch flwyddyn, neu adael yn wag i gael pob blwyddyn

Dewiswch yr arolwg i weld y data ar ei gyfer


ID Arolwg Dyddiad Habitat Target flower Photo of target flower Total number of insects
No information available

Home